YMATEB Y LLYWODRAETH I’R PWYNTIAU O RAN RHAGORIAETHAU:

 

Adolygiad Diamond – mae cynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gywir i nodi bod y polisi sy’n sail i’r Rheoliadau wedi ei ddatblygu fel ymateb uniongyrchol i’r ‘Adolygiad annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr’ a gadeiriwyd gan yr Athro Syr Ian Diamond.

 

Goblygiadau sy’n deillio o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – Cydnabu Llywodraeth Cymru oblygiadau posibl Brexit i addysg uwch yn ei Phapur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ ym mis Ionawr 2017. Wrth i’r goblygiadau sy’n deillio o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ddod yn gliriach, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn ystyried yr effaith ar ei pholisïau cymorth i fyfyrwyr a’r gwaith o ddatblygu Rheoliadau.

 

 

YMATEB LLYWODRAETH CYMRU I’R PWYNTIAU TECHNEGOL:

 

Cwestiwn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: There is no definition provided for ‘an NHS foundation trust’ in Regulation 44 (4) (c). This is at odds with other bodies who are defined in Regulation 44 (4). A definition would put beyond doubt what is meant by the term. Definitions of the term are used in the Social Services and Well-being (Wales) Act (2014) and the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018. [Standing Order 21.2 (vi) – that its drafting appears to be defective or it fails to fulfil statutory requirements]

 

Ymateb Llywodraeth Cymru:

 

Yn ein barn ni, nid yw’r drafftio yn ddiffygiol ac nid yw’n methu â bodloni gofynion statudol. Mae’r rheoliadau yn gweithredu’n gywir ac yn gyfreithlon heb ddiffinio “ymddiriedolaeth sefydledig GIG”. Nid yw’r diffiniad yn ganolog i weithrediad y rheoliadau. Mae nifer o enghreifftiau ar y llyfr statud o ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymdrin â swyddogaethau ymddiriedolaethau sefydledig GIG nad ydynt yn darparu diffiniad o’r term.

Ymhlith y rhain mae-

 

i.          Deddf Gofal 2014;

ii.          Deddf Tai (Cymru) 2014;

iii.         Deddf Awtistiaeth 2009; a

iv.        Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

 

Yn y rheoliadau, mae’n glir o’r diffiniad blaenorol o “ymddiriedolaeth GIG” nad yw “ymddiriedolaeth sefydledig GIG” yn golygu ymddiriedolaeth a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac felly mae i’r term yr ystyr sydd wedi ennill ei blwyf.

 

Rydych wedi cyfeirio at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 fel enghraifft o ddeddfwriaeth ddiweddar lle y mae “ymddiriedolaeth sefydledig GIG” yn derm diffiniedig. Yn ein barn ni, gellir gwahaniaethu rhwng yr achos hwn a’r enghraifft honno, am fod rhesymeg drafftio a pholisi wahanol yn gymwys i gynnwys y diffiniad yng nghyd-destun materion trawsffiniol. Y bwriad yn yr achos hwnnw oedd mynd â’r darllenydd i’r ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn glir mai cyrff Lloegr yn unig yw ymddiriedolaethau sefydledig GIG ac felly eu bod y tu allan i Gymru. Fodd bynnag, yn achos Rheoliadau 2018, mae’n glir o reoliad 44(2) fod y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yn gyrff yn y Deyrnas Unedig.

 

Cwestiwn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Paragraph 2(2)(c) of Schedule 4 of the Welsh text refers specifically to grants, loans or other payments made by the Higher Education Funding Council for Wales.  There is no reference to that body in the English text, so that the grants loans or other payments are not limited in that way.  [Standing Order 21.2 (vii) – inconsistencies between the meaning of the English and Welsh texts]

 

Ymateb Llywodraeth Cymru:

 

Rydym yn cytuno bod gan y testun Cymraeg gyfeiriad diangen at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”), ac yn bwriadu cynnwys hynny mewn rheoliad diwygio. Bwriedir diddymu’r corff cyfatebol yn Lloegr, sef Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, ar ddechrau mis Ebrill 2018, pan fydd angen inni ddiwygio’r ddarpariaeth hon beth bynnag i gyd-fynd â sefydlu’r corff cyllido newydd ar gyfer Lloegr (y Swyddfa Fyfyrwyr).

 

Cwestiwn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Regulation 53 provides that a person is not eligible for a maintenance loan (in respect of living costs) if they have reached the age of 60 on the first day of the academic year in which the course starts.  Students over 60 are however eligible to apply for a base grant, maintenance grant and other targeted grants.

Regulation 99 and Schedule 5 provide that a person is not eligible for an Oxbridge college fee loan (a loan made available for the payment of college fees in respect of certain designated courses offered by Oxbridge e.g. dentistry, social work) if they have reached the age of 60 on the first day of the academic year in which the course starts.

The Committee raises the following human rights concern in respect of this age limit.

Article 2 of Protocol 1 to the European Convention on Human Rights (ECHR) contains a free-standing right to education.

 

Article 14 of the ECHR provides that the enjoyment of the rights and freedoms set out in the ECHR shall be secured without discrimination on various protected grounds, including age.[1]

 

The Committee believes that the issues raised by regulations 53 and 99 relate to the right to education. Therefore, by setting an upper age limit of 60, the Committee asks whether they discriminates against people over 60 in relation to their enjoyment of the right to education?

 

Whether the upper age limit is discriminatory will depend on whether it can be justified. If it can be justified, there is no discrimination and no breach of the ECHR.

 

The Explanatory Memorandum provides no justification as to the setting of the upper age limit. The Committee therefore asks the Welsh Government to provide an analysis of the Welsh Government’s justification using the well-established fourfold test set out by the Supreme Court, i.e.

 

·                     Does the measure have a legitimate aim sufficient to justify the limitation of a fundamental right?

·                     Is the measure rationally connected to that aim?

·                     Could a less intrusive measure have been used?

·                     Has a fair balance been struck

[Standing Order 21.2 (i) – that there appears to be doubt as to whether it is intra vires.]

 

 

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru:

 

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o’i chyfiawnhad dros osod y terfyn oedran uchaf. Mae’r tabl isod yn nodi’r data a oedd yn sail i’r polisi:

 

Oedran wrth ddechrau ad-dalu

30

40

50

55

Incwm cyfartalog

£40,390

£48,640

£46,910

£45,660

Ad-daliad blynyddol cyfartalog

£1,380

£2,130

£1,970

£1,860

Cyfanswm yr ad-daliad hyd at:

£54,800

£46,200

£25,900

£16,000

 

 

 

 

 

Oedran wrth ddechrau ad-daliad

60

65

70

75

Incwm cyfartalog

£33,230

£29,590

£27,160

£23,570

Ad-daliad blynyddol cyfartalog

£740

£410

£190

£0

Cyfanswm yr ad-daliad hyd at:

£6,700

£3,000

£1,000

£0

Noder. Mae cyfanswm amcangyfrifedig yr ad-daliadau wedi eu talgrynnu i’r £100 agosaf. Mae’r ffigurau eraill wedi eu talgrynnu i’r £10 agosaf.

 

Ffynhonnell y data incwm: Effeithiau trethi a budd-daliadau ar incwm aelwydydd 2014-15, Swyddfa’r Ystadegau Gwladol. Mae incwm yn cynnwys pob ffynhonnell incwm gan gynnwys cyflogau, incwm wedi ei briodoli i fuddion mewn nwyddau neu wasanaethau, incwm hunangyflogaeth, pensiynau preifat, blwydd-daliadau, incwm buddsoddi ac incwm arall.

 

Amcangyfrifir y tebygolrwydd y caiff y benthyciad ei ad-dalu drwy ystyried yr incwm cyfartalog ar gyfer pob grŵp oedran, sy’n cynnwys pensiwn y wladwriaeth pan fo’n briodol. Rhagdybir y caiff benthyciad ei ad-dalu gan y rheini y mae ganddynt incwm dros £25,000, ac y caiff ei ad-dalu ar gyfradd o 9% o unrhyw incwm dros y trothwy hwnnw.

 

Y data ystadegol uchod yw sail y penderfyniad polisi i gynnwys terfyn oedran uchaf ar gyfer y benthyciad cynhaliaeth a’r benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge yn y Rheoliadau. Yn R (on the application of Carson) v Secretary of State for Work and Pensions; R (on the application of Reynolds) v Secretary of State for Work and Pensions [2005] 4 All ER 545, dywedodd yr Arglwydd Hoffman:

 

“ a line must be drawn somewhere. All that is necessary is that it should reflect a difference between the substantial majority of the people on either side of the line”.

Barn Llywodraeth Cymru, ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, yw bod terfyn oedran o 60 oed yn cyflawni cydbwysedd teg a chymesur rhwng budd y cyhoedd a buddiannau eraill sy’n gysylltiedig ac, felly, y gellir ei gyfiawnhau.

 

Fel y mae’r Pwyllgor wedi ei nodi yn y sylwadau ym mhwynt 3 o’r Adroddiad Craffu Technegol, mae myfyrwyr 60 oed neu drosodd yn gymwys i wneud cais am y grant sylfaenol, y grant cynhaliaeth a grantiau eraill sydd wedi eu targedu er mwyn cefnogi eu costau byw ac astudio. Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr 60 oed neu drosodd yn gallu cael gafael o dan y Rheoliadau ar grantiau mwy at gostau byw ac astudio nag y byddent wedi gallu eu cael o dan reoliadau cymorth i fyfyrwyr israddedig blaenorol.

 

Mae’r benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn cael ei roi ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn un o set ddiffiniedig o gyrsiau galwedigaethol a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt ac sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol. Y rhesymeg dros eithrio myfyrwyr 60 oed a throsodd rhag gwneud cais am y benthyciad hwn yw y gellir cyfiawnhau, yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig, dargedu cymorth at y rhai sy’n dechrau eu gyrfaoedd neu sy’n dymuno ailhyfforddi hanner ffordd drwy eu gyrfa.

 

O ran y prawf pedwarplyg, barn Llywodraeth Cymru yw bod nod dilys gan y llinell bendant a dynnir, a’i bod yn gysylltiedig yn rhesymegol â’r nod hwnnw: darperir benthyciadau cynhaliaeth a benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig. Nod y Llywodraeth, yn unol ag argymhellion adolygiad Diamond, oedd sefydlu a chynnal system gyllido gynaliadwy a fyddai’n rhoi enillion da ar fuddsoddiad, h.y. y benthyciadau. Er mwyn cyflawni’r nod hwnnw, mae’n hollbwysig bod ad-daliadau yn cael eu casglu’n effeithlon ac yn effeithiol. Mae’r data ystadegol mewn cysylltiad â chyfraddau ad-dalu ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn dystiolaeth wrthrychol bod cysylltiad rhesymegol rhwng y terfyn oedran o 60 oed a’r nodau hynny. Ystyriwyd y posibilrwydd o fesurau llai ymwthiol i gyflawni nod y Llywodraeth wrth ystyried pa mor gymesur yw’r mesur. Ystyriwyd y byddai system arall a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgymryd ag ymchwilio ac asesu unigol yn creu baich gweinyddol trwm a fyddai’n defnyddio adnoddau prin a chyflwyno'r posibilrwydd y gwneid penderfyniadau anghyson, ac y byddai system o’r fath yn llai priodol na rheol llinell bendant. Mae’r pecyn o gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fyfyrwyr 60 oed a throsedd yn sicrhau cydbwysedd rhesymol rhwng hygyrchedd addysg uwch a chynaliadwyedd ariannol cyffredinol y system cymorth i fyfyrwyr.

 

I grynhoi, yng ngoleuni'r holl gyfraith achosion berthnasol ac ar sail tystiolaeth wrthrychol, ystyrir bod modd cyfiawnhau rheol llinell bendant.

Barn Llywodraeth Cymru yw y bydd yr un ystyriaethau o ran cyfiawnhad gwrthrychol yn gymwys i gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol ar sail oedran o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (adran 13(2)).

[diwedd]